Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
8 Chwefror 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13219
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1-6 ac 8. Ni ofynnwyd cwestiwn 7. Atebwyd cwestiynau 1 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Dechreuodd yr eitem am 14.22
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.05
Atebwyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): Yn sgil cyhoeddiad Ofgem ynghylch roi terfyn ar osod mesuryddion rhagdalu yn orfodol, pa sylwadau y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch cefnogaeth i'r rhai sy'n wynebu cael eu datgysylltu o ganlyniad i gael eu gorfodi i newid yn barod y gaeaf hwn?
Atebwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cynnig cyflog newydd a gynigiwyd i weithwyr y GIG gan Lywodraeth Cymru?
4 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.41
Gwnaeth Huw Irranca-Davies ddatganiad am - Llwybrau i Lesiant, prosiect Cymru gyfan sy’n datblygu llwybrau cerdded gyda gwirfoddolwyr, yn dod i ben.
Gwnaeth Jenny Rathbone ddatganiad am - Can mlynedd o ddarlledu radio yng Nghymru. Roedd pen-blwydd y darllediad cyntaf gan y Wireless Orchestra a gafodd ei wneud o ystafell uwchben siop yng Nghaerdydd ddydd Llun 13 Chwefror.
Gwnaeth Joel James ddatganiad am - Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (6-12 Chwefror), gan dynnu sylw at ddau berson ifanc yn ei ranbarth sydd wedi cael prentisiaethau, ac un ohonynt wedi ennill gwobr prentis y flwyddyn.
5 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Absenoldebau disgyblion
Dechreuodd yr eitem am 15.48
NDM8195 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Absenoldeb Disgyblion', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Tachwedd 2022.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ionawr 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Porthladdoedd rhydd
Dechreuodd yr eitem am 16.34
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8200 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y cyfleoedd i borthladdoedd rhydd fywiogi economi Cymru, creu swyddi o ansawdd uchel, hyrwyddo adfywio a buddsoddi.
2. Yn nodi bod tri chais o Gymru wedi cael eu cyflwyno i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau dau borthladd rhydd yng Nghymru, gan gydnabod y cynigion gwirioneddol eithriadol a gyflwynwyd a'r manteision trawsnewidiol y gallant eu cyflawni ar gyfer economi Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
37 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod bod porthladdoedd, harbwrs, cyrchfannau glan môr a chymunedau arfordirol eraill yn cael eu gadael ar ôl a bod angen buddsoddiad i sicrhau eu hyfywedd tymor hir.
2. Yn cydnabod ymhellach fod cymunedau arfordirol yn wynebu problemau strwythurol hir dymor amryfal, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, dlodi a newidiadau amgylcheddol.
3. Yn nodi polisi porthladdoedd rhydd Llywodraeth y DU a'r newidiadau y cytunwyd arnynt i gynnig gwreiddiol Llywodraeth y DU.
4. Yn nodi ymhellach y cyflwynwyd tri chais o Gymru i'w hystyried gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a bod awdurdodau lleol a phartneriaid eraill wedi llunio ceisiadau y maen nhw'n credu sy'n adlewyrchu anghenion eu cymunedau.
5. Yn credu bod angen ymateb ehangach i'r materion sy'n wynebu ein cymunedau arfordirol gan gynnwys gwella seilwaith a mesurau i fynd i'r afael â thlodi.
6. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gynyddu'n sylweddol y cyllid a ddarperir ar gyfer seilwaith a lleihau tlodi yn ein cymunedau arfordirol er mwyn mynd i'r afael â'r problemau sy'n eu hwynebu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
40 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod y tri chynnig a gyflwynwyd wrthi’n cael eu hasesu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn unol â’r meini prawf a gyhoeddwyd ym Mhrosbectws Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru: prosbectws ymgeisio a bydd canlyniad y broses yn benderfyniad ar y cyd rhwng Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Gweinidogion Llywodraeth y DU fel rhan o broses agored a thryloyw.
Y Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru: prosbectws ymgeisio
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
24 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8200 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y cyfleoedd i borthladdoedd rhydd fywiogi economi Cymru, creu swyddi o ansawdd uchel, hyrwyddo adfywio a buddsoddi.
2. Yn nodi bod tri chais o Gymru wedi cael eu cyflwyno i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
3. Yn nodi bod y tri chynnig a gyflwynwyd wrthi’n cael eu hasesu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn unol â’r meini prawf a gyhoeddwyd ym Mhrosbectws Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru: prosbectws ymgeisio a bydd canlyniad y broses yn benderfyniad ar y cyd rhwng Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Gweinidogion Llywodraeth y DU fel rhan o broses agored a thryloyw.
Y Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru: prosbectws ymgeisio
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
10 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
7 Dadl Plaid Cymru - Datganoli treth incwm
Dechreuodd yr eitem am 17.33
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8199 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu fod cyfyngiadau presennol pwerau amrywio trethi Llywodraeth Cymru yn rhwystr rhag llunio polisïau effeithiol yng Nghymru, yn enwedig y gallu i ymateb i'r argyfwng costau byw presennol, a'r argyfyngau sy'n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus.
2. Yn credu y dylai'r Senedd feddu ar y cymhwysedd datganoledig i bennu ei bandiau treth incwm ei hun, yn unol â'r pwerau sydd eisoes wedi'u datganoli i Senedd yr Alban o dan Ddeddf yr Alban 2012.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn y broses a amlinellir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i geisio pwerau a gedwir ar hyn o bryd i San Steffan er mwyn galluogi'r Senedd i bennu'r holl gyfraddau a bandiau ar gyfer Treth Incwm Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
40 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y defnydd cyfrifol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o’i phwerau amrywio trethi i helpu i lunio polisïau effeithiol yng Nghymru yn ystod yr argyfwng costau byw presennol.
2. Yn cefnogi dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â datganoli trethi yn unol â'i hegwyddorion treth a'i huchelgeisiau ar gyfer cryfhau datganoli o fewn y Deyrnas Unedig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
25 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8199 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y defnydd cyfrifol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o’i phwerau amrywio trethi i helpu i lunio polisïau effeithiol yng Nghymru yn ystod yr argyfwng costau byw presennol.
2. Yn cefnogi dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â datganoli trethi yn unol â'i hegwyddorion treth a'i huchelgeisiau ar gyfer cryfhau datganoli o fewn y Deyrnas Unedig.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
25 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
8 Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.25
9 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.31
NDM8196 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Manteision ymchwil meddygol yng Nghymru
Daeth y cyfarfod i ben am 18.48
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 14 Chwefror 2023